Вход на сайт

Просмотр новости

Найдите то, что Вас интересует

Rhoi Taliad Plant Cymru ar waith – pa lwybrau all Llywodraeth Cymru eu cymryd? 

Дата публикации: 09-07-2026 07:00:00

Mari Williams o Achub y Plant Cymru a Mabli Jones o Sefydliad Bevan yn trafod y camau sydd angen eu cymryd i gyflwyno Taliad Plant [...] More
The post Rhoi Taliad Plant Cymru ar waith – pa lwybrau all Llywodraeth Cymru eu cymryd?  appeared first on Bevan Foundation.


Основное содержимое страницы с новостью.

Mari Williams o Achub y Plant Cymru a Mabli Jones o Sefydliad Bevan yn trafod y camau sydd angen eu cymryd i gyflwyno Taliad Plant Cymru 

O blith gwledydd y DU, Cymru sydd â’r cyfraddau uchaf o dlodi plant – yn syfrdanol, mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn tyfu a chael eu magu mewn tlodi ac yn colli cyfleoedd i brifio a ffynnu. Mae’r effaith ar blant yn enfawr. Fel rhan o waith ymchwil Achub y Plant Cymru Power of Voice , dywedodd plant a phobl ifanc wrthon ni y ‘dylai pob plentyn fod ar yr un lefel; dydy rhai plant ddim yn cael y plentyndod y dylen fod yn ei gael’ a ‘os nad oes arian gennych chi, yna gallwch chi gael eich bwlio a bod o dan bwysau achos dydy’ch rhieni ddim yn gallu fforddio pethau’.

Byddai Taliad Plant Cymru yn lifer pwerus i fynd i’r afael â hyn, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael cychwyn teg mewn bywyd a buddsoddi mewn dyfodol gwell i Gymru. Mae modelu gan Sefydliad Bevan yn dangos mai hyn fyddai’r dull “mwyaf pwerus ac effeithiol” o godi canran uchaf o’r boblogaeth uwchben y llinell dlodi.

Mae Plaid Cymru wedi addo treialu Cynnal, Taliad Plant Cymru, ac o wneud hyn yn “dadlau’r achos dros ddatganoli’r grymoedd sydd eu hangen arnon ni i ddatblygu’r taliad yn llawn i ledled Cymru.”

Ond pa rymoedd cyfreithiol sydd ganddyn nhw i weithredu cynllun peilot? A pha lwybrau sy’n bodoli i ddatblygu Taliad Plant Cymru yn llawn? Dyma’r cwestiynau y comisiynwyd yr arbenigwr cyfreithiol, Yr Athro Emyr Lewis, gan Sefydliad Bevan ac Achub y Plant Cymru i’w hateb, ac rydyn ni’n cyhoeddi ei bapur yr wythnos hon. Dyma rhai o’r canfyddiadau allweddol a’r goblygiadau:

Yn gyfreithiol, mae Taliad Plant Cymru yn bosibl

Er bod nawdd cymdeithasol yn fater a gadwyd yn ôl, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’i phwerau gweithredu a roddwyd iddi o dan Ddeddf 2006 i gyflwyno Taliad Plant Cymru. Mae Adran 60(1) o’r Ddeddf hon yn rhoi grym i Weinidogion Cymru i weithredu unrhyw beth y tybian nhw y byddai o fudd neu’n gwella llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol Cymru. Fel y dywed Yr Athro Emyr Lewis: “Byddai lleihau tlodi plant yn sicr yn gwella llesiant cymdeithasol Cymru a mwy na thebyg ei llesiant economaidd. Petai Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n briodol i gyflwyno TPC at y diben hwnnw, byddai o fewn eu grymoedd o dan Adran 60 i wneud hynny.

Yn ymarferol, mae’n hanfodol cael cydweithrediad Llywodraeth y DU

Er bod y llwybr cyfreithiol yn gymharol glir, mae’r trefniadau ymarferol yn fwy cymhleth. Bydd yn hanfodol cael cytundeb Llywodraeth y DU ar rai materion, yn enwedig rhannu data rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru o ran sefydlu cymhwysedd rhai sy’n addas ar gyfer y cynllun, a’r cwestiwn a fyddai’r taliad yn cael ei drin fel incwm gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EM. Fel y dywed Yr Athro Lewis: “Byddai i Lywodraeth Cymru fynd ati ar ei liwt  ei hun heb eglurder ar y pwynt olaf hwn, yn creu perygl o danseilio neu lastwreiddio effeithiolrwydd y taliad yn sylweddol.” Mae Llywodraeth y DU wedi mynegi ei bod wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi plant. Bydd y graddau y maen nhw’n cydweithredu â Llywodraeth Cymru wrth weithredu Taliad Plant Cymru yn brawf o’r bwriad hwn.

Yn wleidyddol, bydd angen canfod cyllideb 

Bydd angen i Lywodraeth Cymru ariannu’r cynllun peilot ac unrhyw gynllun a roddir ar waith – sef y taliadau eu hunain, ynghyd â sefydlu a chynnal y peirianwaith gweinyddol. Mae Sefydliad Bevan wedi cyfrifo y byddai taliad sy’n cyfateb i system yr Alban (£28.20 yr wythnos – y gyfradd ar gyfer 2026/27) i bob plentyn 0–15 oed mewn aelwydydd Credyd Cynhwysol yn costio tua £352 miliwn y flwyddyn – ychydig dros 1 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru (noder nad ydy hyn ddim yn cynnwys y costau gweinyddol).

Ond mae’r darpar enillion yn rhai sylweddol. Mae ffigurau tlodi plant yr Alban yn sylweddol is na rhai Cymru, oherwydd polisïau sy’n cynnwys Taliad Plant yr Alban. Mae tystiolaeth a amlygir gan brosiect ymchwil Prifysgolion Efrog, Glasgow a’r LSE wedi canfod “gostyngiadau ystadegol arwyddocaol mewn amddifadedd materol plant ac ansicrwydd bwyd o’i gymharu â Lloegr, ar ôl cyflwyno’r SCP (Taliad Plant yr Alban).”

Ac yn y tymor hir, mae’r manteision economaidd o leihau tlodi plant yn llawer rhagorach na’r costau gan sicrhau llai o alw a phwysau ar wasanaethau fel iechyd a lles, yn ogystal â chynhyrchu refeniw uwch o ran treth.

Yn yr hir-dymor, mae angen rhagor o bwerau datganoledig

Er bod sail gyfreithiol yn bodoli ar gyfer gweithredu Taliad Plant Cymru heb yr angen i ddatganoli pwerau pellach, mae’n amlwg – yn arbennig ar gyfer cynllun Taliad Plant Cymru wedi’i gyflwyno’n llawn – y byddai cyflwyno deddfwriaeth i gefnogi Taliad Plant Cymru yn opsiwn cryfach yn y tymor hwy. Ar hyn o bryd, ni all y Senedd ddeddfu ynghylch cynlluniau nawdd cymdeithasol a gefnogir o gronfeydd cyhoeddus – er mwyn i hynny ddigwydd byddai angen diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy gyflwyno un neu fwy o eithriadau i gadw cynlluniau nawdd cymdeithasol, gan gynnwys un fyddai’n ymwneud â budd-daliadau atodol. Mae dau ddull o achosi hyn i ddigwydd: Deddf Seneddol neu Orchymyn yn y Cyngor a wneir gan y Brenin. Mae’r ddau yn llwybrau hyfyw (y cyntaf oedd yr un a ddilynodd yr Alban i gael y pwerau oedd eu hangen arnyn nhw ar gyfer Taliad Plant yr Alban), ond ar gyfer y naill lwybr neu’r llall, mae angen cefnogaeth Llywodraeth y DU. Gall hyn gymryd peth amser, ac felly dylai’r broses ddechrau cyn gynted â phosibl i sicrhau y gall y cynllun peilot Cynnal drawsnewid i fod yn gynllun fydd wedi’i gyflwyno’n llawn heb amharu ar y rhai sy’n derbyn y budd-dal. A byddai datganoli mwy o bwerau yn rhoi cyfle i ailystyried y setliad cyllidol hefyd, gan ddarparu rhagor o arian ac atebolrwydd i Lywodraeth Cymru.

Yn gyfreithiol, yn ymarferol ac yn wleidyddol, mae rhoi Taliad Plant Cymru ar waith yn bosibl. Gallai ei gyflwyno ddylanwadu’n sylweddol ar fywydau plant yng Nghymru, yn debyg i’r hyn rydyn ni’n ei weld sy’n cael ei gyflawni gan y Taliad Plant yn yr Alban. Mae angen i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen yn ddewr gyda dylunio a gweithredu cynllun peilot ‘Cynnal’, wrth gychwyn y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i ganfod y pwerau cyfansoddiadol i ddod â Thaliad Plant Cymru llawn i fod yn gyfraith.

Darllenwch y papur briffio »

Схожие новости

#Наименование новостиТональностьИнформативностьДата публикации
1Archwilio’r sail gyfansoddiadol ar gyfer cyflwyno taliad plant yng Nghymru08.9909-07-2026
2Implementing a Welsh Child Payment: what routes can the Welsh Government take?08.0609-07-2026
3Prif Weithredwr Sefydliad Bevan i gyd-gadeirio Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru011.909-06-2026
4Cadernid economaidd ac etholiad y Senedd 2026012.3114-07-2026
5Exploring the constitutional basis for delivering a child payment in Wales07.7109-07-2026
6Mae pleidleiswyr sy’n ansicr yn economaidd eisiau gweld newid, dyletswydd gwleidyddion yw ei gyflawni09.4914-07-2026
7Launch webinar: How economic insecurity shaped the 2026 Senedd election013.4412-06-2026
8Sharing insights at Powys Child Poverty Taskforce’s Annual Conference06.1219-06-2026
9Economic insecurity and the 2026 Senedd election014.0814-07-2026
10Economically insecure voters want to see change, it’s up to politicians to deliver it09.7814-07-2026

Классификация: . Схожих патентов: 0. Схожих новостей: 10. Тональность: 0. Информативность: 6.64. Источник: www.bevanfoundation.org.